Pages

21/12/2009

Teledu ac i-Teledu dros y Gwyliau

Os ydych am wylio stwff cŵl dros y 'Dolig. Rholiwch dros y ddolen i weld crynodeb o rai o'r sioeau:

More4
Royal Institution Christmas Lectures
Darlith #1 [More4 Rhagfyr 21 1900], 4Player (27 diwrnod yn weddill)
Darlith #2 [More4 Rhagfyr 22 1900], 4Player (28 diwrnod yn weddill)
Darlith #3 [More4 Rhagfyr 23 1900], 4Player (29 diwrnod yn weddill)
Darlith #4 [More4 Rhagfyr 24 1900], 4Player (29 diwrnod yn weddill)
Darlith #5 [More4 Rhagfyr 25 1900], 4Player (29 diwrnod yn weddill)

iPlayer

Life: The Challenges of Life (gorffen Rhagfyr 31)
Life: Reptiles and Amphibians (gorffen Rhagfyr 31)
Life: Mammals (gorffen Rhagfyr 31)
Life: Fish (gorffen Rhagfyr 31)
Life: Birds (gorffen Rhagfyr 31)
Life: Insects (gorffen Rhagfyr 31)
Life: Hunters and Hunted (gorffen Rhagfyr 31)
Life: Creatures of the Deep (gorffen Rhagfyr 31)
Life: Plants (gorffen Rhagfyr 31)
Life: Primates (gorffen Rhagfyr 31)
Horizon: The Secret You (gorffen Rhagfyr 28)
Horizon: Fix Me (gorffen Rhagfyr 28)
Horizon: Why Do We Talk? (gorffen Rhagfyr 21)

19/12/2009

Copenhagen 2009

Fel rydych yn gwybod mae cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar newid yn yr hinsawdd yn parhau yn Copenhagen yr wythnos hon. Gallwch ddod o hyd at wybodaeth bwysig yma:

18/12/2009

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

Hoffai'r Gyfadran Wyddoniaeth ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i'n Brainiacs ac i weddill blwyddyn 7.

Mwynhewch eich hun - ac os oes cyfle i wneud ambell arbrawf dros y gwyliau - ewch amdani a dewch ag unrhyw luniau i mewn!

Er, plis, plis, byddwch yn ddiogel. Nid yw rhoi tsili mewn pwdin Nadolig mam yn ddoniol ychwaith - er ... na, o ddifri, peidiwch!

17/12/2009

Plu Eira Eto!

Dim ond gair i ymddiheuro am ddarllediad byw heddiw - oherwydd problemau technegol, nid oedd yn bosib. Rwyf yn ffyddiog bydd y materion hyn wedi'u datrys erbyn ein sesiwn nesaf.







There was no live transmission today due to technical difficulties. Live transmissions will start in January.

15/12/2009

Plu Eira Poeth!

Heddiw fe greon ni blu eira allan o foracs. Gwnaeth y gwyddonwyr ifainc ferwi ychydig o ddŵr a chreu hydoddiant uwch-ddirlawn. Yna, gadawsant eu plu eira wedi'u gwneud allan o lanhawyr pib, dros nos yn yr hydoddiant.

Wrth i'r dŵr oeri, mae hydoddedd y boracs yn lleihau ac felly mae'n grisialu allan a ffurfio solid ar y glanhawyr pib.







Today we made snowflakes from borax. The young scientists boiled some water and created a supersaturated borax solution and immersed their pipe-cleaner snowflakes overnight. Et voilà!

12/12/2009

Pluen Eira

Yr wythnos nesaf byddwn yn creu plu eira allan o boracs.

10/12/2009

Pasportau Newydd!

Rhai o'r merched yn dangos eu pasportau newydd. Caiff y rhain eu defnyddio i gadw trac ar y gweithgareddau maent wedi'u cyflawni.


Some of our female brainiacs modelling the new passports. These will be used to keep track of their activities.

Alwyn Picasso wedi'i ddal am yr Ail Dro!

Jiawcs! Dyma Alwyn Picasso yn cael ei ddal yn y weithred eto! Taflu'r allwedd i ffwrdd y tro hwn.

Diolch i Katie am ei chefnogaeth.












08/12/2009

Bys ar y Ffugiwr!

Wel, cafodd y drwgdybiwr ei ddarganfod mewn amser byr dros ben gan ein ditectifs! Nid oedd 10 munud wedi mynd heibio cyn i'r canlyniadau cyntaf ddod i mewn. Roedd hwn yn syndod, yn enwedig wrth i'r ffugiwr guddio'i inc gydag inc du, felly nad oedd modd ei weld.











Hoffwn ddiolch i Eliza a Jac am eu cymorth.

Alwyn Picasso oedd y ffugiwr heddiw. Tybed pwy a fydd y ffugiwr ar ddydd Iau?

One of the suspects was found out in record time today. Our detectives 'made the perp' in under 10 minutes! Alwyn Picasso was identified as the master forger today. Wonder who the forger will be on Thursday?

05/12/2009

Dal y Ffugiwr!

Wythnos nesaf byddwn yn ceisio â darganfod y ffugiwr a wnaeth dwyllo pawb wrth beintio hen glasur!


03/12/2009

Ysgrifen Tân #2!

Yn dilyn llwyddiant ein Clwb, roedd yn rhaid sicrhau sesiwn ychwanegol heddiw. Dyma'r uchafbwyntiau. Diolch i Eliza a Katie am eu cymorth.











Installations from the second Club session this week. Many thanks to Katie and Eliza for their support.

01/12/2009

Ysgrifen Tân!

Dyma sesiwn arbennig ar gyfer trosglwyddo negeseuon cudd! Roedd y disgyblion wedi ysgrifennu neges gudd wedi gwneud inc arbennig allan o ddŵr a sodiwm nitrad. Roedd y neges yn hollol anweledig. Yna wrth gyffwrdd y neges gyda sblint poeth, gwnaeth gwrid ymledu dros y papur i ddatgelu'r neges wreiddiol.

PEIDIWCH Â THRIO HWN GATRE!

[Ffeil y Weithgaredd]










Mae hwn yn gweithio oherwydd bod sodiwm nitrad yn ocsidydd cryf. Hynny yw, mae'n rhyddhau llawer o ocsigen pan yn boeth ac yn cynnal pethau i losgi.

Llongyfarchiadau i'r tïm a enillodd - roedd eich neges yn hollol glir - yn dyst i'ch gwaith arbennig ar bob cam.

Caiff sesiwn ychwanegol ei chynnig am 13:40 ar ddydd Iau ar gyfer y rhai a fethodd ennill mynediad heddiw.

Today the students participated in some 'fire-writing', using saturated sodium nitrate solution as an invisible ink. As they set fire to the message, the area laden with oxidizing agent (sodium nitrate) burned and charred as the remainder of the paper was left untouched. This allowed the message to be read. This activity was conducted through a civil war scenario, where messages had to be hidden or secret.

DON'T TRY THIS AT HOME!

Owing to the class being over-subscribed, a second session will take place on Thursday at 13:40.