Pages

24/02/2010

Tywydd Garw Eto!

Yn dilyn problemau eira (eto!), nid oedd modd cynnal clwb ar ddydd Mawrth. Bydd y clwb yn cwrdd fel arfer ar ddydd Iau.

21/02/2010

Gwresogyddion Dwylo

Byddwn yn edrych ar adweithiau cemegol sydd yn rhyddhau gwres. Ein swydd bydd i ddarganfod pa sylweddau yw'r gorau er mwyn twymo'r dwylo ar ddiwrnod gaeafol. Brrrr!

09/02/2010

Fideos Chwefror

Tyler Lewis a Celyn Jones
Pŵer

02/02/2010

Llofruddiaeth Dr. Du

Gwnaeth y criw ymchwilio i ddulliau fforensig er mwyn dod o hyd at lofrudd. Cafodd gwenwyn ei ddarganfod mewn corff Dr. Du. Roedd 5 drwgdybiwr i'w profi. Cafodd y llofrudd ei ddal gan ddull prawf fflam.













Dr. Du's murderer was discovered using forensic techniques. The 'perp' was eventually found - a dirty rotten lithium poisoner.

01/02/2010

Tân Gwyllt a Gwenwyn Lucrezia

Gweld bod y tywydd oer yn parhau, beth am weithgaredd i dwymo pethau lan? Byddwch yn derbyn samplau anhysbys o gemegau a gafodd eu darganfod o gwmpas yr ardal trosedd. Eich swydd chi yw eu hadnabod a rhoi'r bys ar y drwgweithredwr.