Pages

28/11/2009

Ysu!

Mae'r Gyfadran yn ysu cael cynnal sesiwn arall - yn debyg i chi. Rydym wedi derbyn llawer o geisiadau newydd i gael ymuno â'r Clwb. Os oes gormod o alw am un sesiwn, byddwn yn edrych i ddechrau sesiwn arall ar ddydd Iau.

Byddwch yn sicr i droi lan yr wythnos hon am sesiwn danllyd!

Chi yw'r asiant yn ystod y rhyfel cartref ac mae angen trosglwyddo neges i'ch meistr. Rydych yn gwybod os cewch eich dal, y rhaff sydd yn eich gwynebu!


The Faculty can't wait for the next session! Many more pupils have applied to join the club. We will consider starting another session on Thursdays if we become oversubscribed.

24/11/2009

Dianc o'r Ynys!

Roedd Brainiacs Cymer wedi'u llongddryllio ar ynys anial a dim ond bresych coch, bambŵ a lemonau a oedd yn tyfu arni. Yn ffodus, roedd bocs creu sebon wedi arnofio i'r traeth a thu fewn i hwn roedd potel o alcali a sampl o sebon.
Y dasg oedd cynhyrchu baner lliwgar i ddenu sylw peilot awyren er mwyn eu hachub.
Gwnaethant ddarganfod yn fuan bod lliw sudd bresych coch (sef glas) yn gallu newid wrth ychwanegu asidau ac alcalïau iddo. Dyma'r lliwiau:

  • coch - gan ychwanegu sudd lemwn

  • porffor - gan chwythu carbon deuocsid i'r sudd

  • gwyrdd - gan ychwanegu sebon

  • melyn - gan ychwanegu alcali

Mae bresych coch yn cynnyws sylweddau sydd yn ymddwyn fel dangosydd. Mae'r sylweddau hyn yn newid lliw gydag asidau ac alcalïau.

Diolch o'r galon am eich cyfraniad heddiw a llongyfarchiadau i'r grŵp a wnaeth ennill.

The Cymer Science Club was re-launched today and saw many pupils take advantage of our exciting programme. We kicked off with an 'escape from the desert island' activity, using a limited set of materials. Multi-coloured 'escape banners' were produced from red cabbage juice as pupils investigated the effect of adding acids and alkalis. The pupils' enthusiasm and contribution were very much appreciated. Congratulations to the winning group!















23/11/2009

Rydym yn gyrru lan i ddechrau yfory! Gobeithio eich bod yn hoffi bresych!

Rydych wedi'ch llongddryllio ar ynys anial a'r unig ffordd i ddenu sylw awyrennau uwchben yw i greu baner lliwgar. Sut ydy'r bresych yn helpu?

PECYN ATHRAWON

22/11/2009

I bawb a wnaeth gweud y cyfarfod, cofiwch ddod â'ch bonyn llythyr gyda chi cyn neu i'r sesiwn gyntaf. Os ydych wedi colli'r llythyr - mae copi yma.

Bydd y Clwb yn dechrau ar 13:40 Dydd Mawrth, 24ain o Dachwedd. Gwnewch dderbyn pasport er mwyn cadw cofnod o'ch gweithgareddau.

02/11/2009

Clwb Gwyddoniaeth Cymer i Gychwyn!

Bydd Clwb Gwyddoniaeth Cymer yn cychwyn yn ystod amser cinio ar ddydd Mawrth, 25ain o Dachwedd ac i redeg yn wythnosol yn dilyn hynny. Croeso mawr i unrhyw un o flwyddyn 7 i'w fynychu.

Bydd y rhaglen yn cynnwys llawer o weithgareddau ymarferol, lle byddwn yn cynnal arbrofion diddorol.