Pages

30/01/2010

Enillydd y Gystadleuaeth Fideo

Yn dilyn llawer fawr o bendroni, dewiswyd ar enillydd.

Llongyfarchiadau i Ben Owen. Caiff gwobr ei chyflwyno yn fuan a bydd ei fideo yn ymddangos ar frig y blog hwn trwy gydol mis Chwefror.

Congratulations to Ben Owen for winning February's Title Video prize.

27/01/2010

Twît Twît a "Helo Ffowcs"



Gallwch nawr ein dilyn ar Twitter: @AlCemegol

You can now follow Club updates on Twitter: @AlCemegol


Gwnaethom dreialu'r darllediad byw ddoe a gwnaeth weithio i'r dim - wel bron. Y cam nesaf yw sicrhau ein bod yn gallu cysylltu camera digidol o safon yn hytrach na'r webcam.


The live feed was successfully trialled yesterday. Our next step is to try and connect a high quality digital camera as opposed to a webcam.

26/01/2010

Cymysgeddau Isotropig

Wel dyna enw posh! Ha - dim ond blawd corn a dŵr! 'Dwi methu â chofio chwerthin cymaint ers oesoedd!

Mae cymysgeddau isotropig yn caledu wrth iddynt gael eu hysgwyd a gwasgu'n gyflym. Yna wrth atal yr ysgwyd, maent yn meddalu eto ac yn llifo trwy'r bysedd. Tro ar ôl tro ar ôl tro.

Diolch yn fawr i Katie Rumble unwaith eto am ei chefnogaeth.










Isotropic mixtures harden when shaken or 'kneaded'. They revert to liquid form on standing and slip through the fingers. Probably the funniest session yet - I can't remember the last time I laughed this much.

22/01/2010

Fideos ar y Ffordd!

Dyma Fideos ein Brainiacs

"Area 51 Element 115"
gan Ben Owen


gan Tyler Lewis


Os hoffech gyfrannu, ewch at bost animoto

11/01/2010

Y Stwff Gwyn

Yn anffodus, oherwydd y tywydd garw, bydd angen gohirio'r Clwb cyntaf tan yr wythnos nesaf. Bŵ, his! Felly dechrau nôl ar ddydd Mawrth 26fed o Ionawr.

07/01/2010

Animoto

Iawn Brainiacs! Eich cyrch, os ydych am ei dderbyn, yw creu fideo 30 eiliad am unrhyw agwedd o wyddoniaeth. Bydd gwobr am yr un gorau a chaiff ei osod ar frig y dudalen hon dros fis Chwefror.



1) Cofrestrwch ar http://animoto.com gyda chaniatâd rhiant.
2) Casglwch luniau (a/neu clipiau fideo) a'u lanlwytho i'r safle.
3) Dewiswch gerddoriaeth i fynd gyda'r clip.
4) Postiwch yr 'url' fel sylw i'r post hwn,

e.e. Clip Alan Davies: http://animoto.com/play/yc5gfYNOYRv20rqvLf29Lg

Cafodd y fideo ar frig y dudalen hon ei greu gan animoto. Simples. Ttchh.

Cofiwch - unrhyw beth i wneud gyda gwyddoniaeth, e.e. y gofod, anifeiliaid, planhigion, arbrofion, ffrwydradau, llosgfynyddoedd ac yn y blaen.

Bydd y gystadleuaeth yn cau ar ddydd Gwener, 29ain o Ionawr, 2010.

This is a competition open to all Year 7 pupils. Open an animoto.com account (with parent's permission of course), create a 30 second video on any aspect of science. Enter the pupil's name and URL as a comment ('sylw' below) to this post. Closing date: Friday, 29/1/2010. A prize will be awarded for the best entry, and will feature as February's headline video on this blog.


Fideo i ddangos sut i roi'r ddolen yn y sylw / How to place the video link in the comments section

04/01/2010

Clwb Cyntaf

Bydd y sesiwn cyntaf y flwyddyn yn digwydd ar y 12fed o Ionawr.
Rhywbeth i'w wneud yn y cyfamser: