Pages

Ynghylch

Natur y Clwb

Cafodd Clwb Gwyddoniaeth Cymer ei ailsefydlu yn dilyn ymadawiad Miss Kelly Williams, a wnaeth ddechrau'r Clwb gwreiddiol, a oedd yn llwyddiannus tu hwnt.

Trefnydd y Clwb presennol yw minnau, Alan Davies, ac rwyf wrth fy modd yn gallu datgan ein bod wedi denu tua 40 disgybl o flwyddyn 7 i ffwrdd o'u ciniawau ers i ni gychwyn.

Rydym yn ceisio â sicrhau taw'r disgyblion sydd yn cymryd rhan a gwneud yr arbrofion - arbrofion na fyddent o bosib yn cyflawni tu fewn i wersi arferol. Mae'r pwyslais ar hwyl, gyda chyn lleied o "ysgrifennu a gwrando" â phosib.

Caiff pob sesiwn ei ffilmio, neu o leiaf caiff lluniau eu cymryd, felly bod modd i'r disgyblion dangos i'w rheini a ffrindiau yr hyn a oeddent yn cyflawni.


Cystadleuthau

Rydym yn rhedeg cystadleuaeth "Fideo Gwyddonol" yn fisol, gyda'r fideo gorau yn ymddangos ar frig y blog hwn. Gofynnwn i'n disgyblion i agor cyfrif ar animoto.com (gyda chaniatád rhiant) ac i ddewis / llwytho rhyw 6 - 8 llun, efallai cynnwys testun ac yna dewis cerddoriaeth. A dyna fe! Mor syml â hynny. Gall ddisgyblion bostio yr 'url' neu cyferiad gwe y fideo fel sylw.


Diweddariad: 26/06/2010