Pages

16/09/2010

Datgelu Cyfrinachau Cemeg

Diwrnod i'w gofio lawr yng Nghaerdydd dydd Gwener diwethaf. Cynhaliwyd gweithgareddau ar gyfer myfyrwyr Bl.13, gan gynnwys darlithoedd, abrofion ac arddangosfeydd.



Yn dilyn darlith ar echdynnu a syntheseiddio cemegau, cafodd y myfyrwyr gyfle is gynhyrchu limonen, olew anghenraid a ddaw o groen ffrwythau sitrig, gan y broses distylliad ager. Yna gwnaethant gynnal nifer o brofion adnabod ar amryw o gemegau organig - pwysig iawn ar gyfer y modiwl CH4. Ar ôl cinio cafodd y myfyrwyr ddarlith ar sbectrosgopeg CMN (NMR), is-goch a màs, gyda cwis difyr i orffen y sesiwn.
Gwnaeth arolygwyr yr adran dywys y myfyrwyr o gwmpas labordai arbennig lle roedd gwaith CMN a sbectrosgopeg màs yn digwydd.

Hoffwn ddiolch i Peter Hollamby, Eurig Thomas a'r Adran Gemeg, Prifysgol Caerdydd am drefnu'r diwrnod.

29/06/2010

Croesawu Blwyddyn 6

O! Dyna le! Awtopsi yn y labordy a gwaith CSI yn dilyn. Pleser oedd croesawu ein blwyddyn 6 heddiw. Cafodd pawb amser da - gan gynnwys yr athrawon.

Cymerodd y disgyblion rhan mewn llawer o weithgareddau fforensig, gan gynnwys canfod gwaed, adnabod olion bysedd, canfod lliwurau mewn inc, profion fflam ar ystod o wenwwynau a phrofi asidedd pridd ar esgidiau'r drwgdybwyr.

Cafwyd Y Parchedig Gwyrdd yn euog o'r drosedd!

[posib bydd lluniau a fideo yn ymddangos os cawn hawl]

Hoffwn ddiolch i aelodau o'r chweched dosbarth am eu gwaith caled. Ni fyddai modd cynnal gweithgareddau o'r math hebddoch chi! Diolch o'r galon.

27/06/2010

Nôl o'r Diwedd!

Wel, mae wedi bod yn amser hir gyda'r arholiadau allanol.

Cafodd ein brainiacs dipyn o sioc heddiw - yn llythrennol! Gwnaethom ymchwilio'r generadur van der Graaf.

13/03/2010

Ysgrifen Cudd

Gan ddefnyddio ffenolffthaein fel inc a nwy amonia fel datblygydd, roedd modd anfon negeseuon cudd rhwng y Brainiacs.

Diffoddwyr Tân

Gwnaethon adeiladu diffoddwyr tân allan o gwpwl o gemegau. Fflat oedd y canlyniad tan bo ychydig o bucket chemistry yn cymryd drosodd. Yna llwyddiant! Ar ôl dwy awr o lanhau, roedd y lab yn edrych yn weddol. Diolch i bawb a wnaeth gyfrannu.

24/02/2010

Tywydd Garw Eto!

Yn dilyn problemau eira (eto!), nid oedd modd cynnal clwb ar ddydd Mawrth. Bydd y clwb yn cwrdd fel arfer ar ddydd Iau.

21/02/2010

Gwresogyddion Dwylo

Byddwn yn edrych ar adweithiau cemegol sydd yn rhyddhau gwres. Ein swydd bydd i ddarganfod pa sylweddau yw'r gorau er mwyn twymo'r dwylo ar ddiwrnod gaeafol. Brrrr!