Pages

24/11/2009

Dianc o'r Ynys!

Roedd Brainiacs Cymer wedi'u llongddryllio ar ynys anial a dim ond bresych coch, bambŵ a lemonau a oedd yn tyfu arni. Yn ffodus, roedd bocs creu sebon wedi arnofio i'r traeth a thu fewn i hwn roedd potel o alcali a sampl o sebon.
Y dasg oedd cynhyrchu baner lliwgar i ddenu sylw peilot awyren er mwyn eu hachub.
Gwnaethant ddarganfod yn fuan bod lliw sudd bresych coch (sef glas) yn gallu newid wrth ychwanegu asidau ac alcalïau iddo. Dyma'r lliwiau:

  • coch - gan ychwanegu sudd lemwn

  • porffor - gan chwythu carbon deuocsid i'r sudd

  • gwyrdd - gan ychwanegu sebon

  • melyn - gan ychwanegu alcali

Mae bresych coch yn cynnyws sylweddau sydd yn ymddwyn fel dangosydd. Mae'r sylweddau hyn yn newid lliw gydag asidau ac alcalïau.

Diolch o'r galon am eich cyfraniad heddiw a llongyfarchiadau i'r grŵp a wnaeth ennill.

The Cymer Science Club was re-launched today and saw many pupils take advantage of our exciting programme. We kicked off with an 'escape from the desert island' activity, using a limited set of materials. Multi-coloured 'escape banners' were produced from red cabbage juice as pupils investigated the effect of adding acids and alkalis. The pupils' enthusiasm and contribution were very much appreciated. Congratulations to the winning group!















No comments: